Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 21 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:50 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James William Powell David Rees Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Carwyn Jones, Prif Weinidog Rhodri Asby, Llywodraeth Cymru Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru Clive Bates, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Virginia Hawkins (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Prif Weinidog (09.30 - 10.15)
2.1 Bu’r Prif Weinidog a swyddogion yn ateb cwestiynau ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru gan Aelodau’r Pwyllgor.
3. Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (10.15 - 11.00)
3.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn ateb cwestiynau ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru gan Aelodau’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am nifer y ceisiadau a gafwyd ar gyfer prosiectau uwchben ac islaw 50 MW ers datganoli, a’r mathau o brosiectau roedd y ceisiadau hyn yn cyfeirio atynt.
4. Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (11.00 - 11.30)
4.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy.
5. Sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin (11.30 - 11.45)
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin o dan Reol Sefydlog 17.17:
Bod y pwyllgor yn penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin; |
mai cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwnnw yw ystyried effaith cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru, y bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau negodi ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar y polisi, ac y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu heb fod yn hwyrach na diwedd 2012 neu unwaith y bydd y negodiadau ar y cynigion deddfu ar gyfer y polisi wedi’u cwblhau, pa un bynnag a ddaw yn gyntaf. |
bod aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC, Rebecca Evans AC, Vaughan Gething AC, Llyr Huws Gruffydd AC, William Powell AC ac Antoinette Sandbach AC, gyda Vaughan Gething AC wedi’i ethol yn Gadeirydd. |
6. Sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (11.45 - 12.00)
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin o dan Reol Sefydlog 17.17:
Bod y pwyllgor yn penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin; |
mai cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwnnw yw ystyried effaith cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yng Nghymru, y bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau negodi ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar y polisi, ac y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu heb fod yn hwyrach na diwedd 2012 neu unwaith y bydd y negodiadau ar y cynigion deddfu ar gyfer y polisi wedi’u cwblhau, pa un bynnag a ddaw gyntaf. |
bod aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC, Llyr Huws Gruffydd AC, Julie James AC, William Powell AC, David Rees AC ac Antoinette Sandbach AC, gyda Julie James AC wedi’i hethol yn Gadeirydd. |
7. Papur i'w nodi: Blaenraglen waith y Pwyllgor - Hydref 2011
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.